Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Llanymddyfri


Clwb Gwawr Llanymddyfri


CLWB GWAWR LLANYMDDYFRI

Trefnwyd blwyddyn llawn hwyl i’r aelodau eleni eto. Nôl yn yr haf dathlwyd pen-blwydd arian y clwb. 25 mlynedd o weithgareddau, chwerthin, hwyl a sbri a chwmnïaeth arbennig. Cafwyd te prynhawn yn y Falcondale yn Llambedr Pont Steffan gan edrych ar luniau a hel atgofion.

Dyma lun o’r aelodau yn cael eu cinio Nadolig yn Y Plough Rhosmaen

Dyma lun o Barti Plygain y Clwb yn recordio eitem i Cracyr Nadolig Merched y Wawr a wnaeth gael ei ddangos ar Zoom 18 Rhagfyr. Cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain llwyddiannus iawn gan y Clwb eleni eto yn Eglwys Sant Mihangel Myddfai. Gwahoddwyd Cantorion Plygain a Chynulleidfa yn gynnes iawn gyda swper i bawb yn y neuadd wedi’r gwasanaeth.