Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Llandeilo Chwefror 2025
Clwb Gwawr Llandeilo Chwefror 2025
CLWB GWAWR LLANDEILO
Diolch i dair o’n haelodau am drefnu noson arbennig ar y thema ‘Galentine’. Diolch i Catrin am y croeso i Dŷ Gwyliau Tirallen ac i Helen am yr arddangosiadau trefnu blodau (Cafodd pedair aelod lwcus fynd a threfniant adre). Diolch i Carwen am drefnu’r “drincs a’r nibbles” ac hefyd am drefnu cystadleuaeth limrig. Llongyfarchiadau i Ann am ennill y wobr am y limrig mwyaf doniol. Pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.
Tirallen | Llangadog | Llanwrda | Self Catering Holiday Cottage