Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Genod Llan yn casglu sbwriel


Clwb Gwawr Genod Llan yn casglu sbwriel


Bu criw o Glwb Genod Llan, Clwb Gwawr Ardal Llandwrog, yn casglu sbwriel rhwng Llandwrog a Dinas Dinlle ar gyfer eu gweithgaredd fis Mai. Gorffenwyd y daith yng nghaffi Braf yn eistedd yn yr haul gyda diod oer i dorri syched a chacen flasus bob un. Daeth dwy ifanc, Ela a Leusa i ymuno - aelodau'r dyfodol gobeithio!