Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Criw Cothi yn mynd ar drip!


Clwb Gwawr Criw Cothi yn mynd ar drip!


Cafodd Clwb Gwawr Criw Cothi amser hyfryd ar eu trip i’r Bathdy Brenhinol Llantrisant. Ar ôl paned cawsant daith ddiddorol iawn o gwmpas y Bathdy Brenhinol. Yna, yn ôl i “McArthur Glen” am ychydig o siopa cyn cael swper blasus yn “Y Bridge” Llangennech. Pawb wedi joio.