Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Criw Cothi - Castell Howell


Clwb Gwawr Criw Cothi - Castell Howell


Cafodd Clwb Gwawr Criw Cothi noson hyfryd a diddorol iawn pan aethon nhw i Gastell Howell Cross Hands yn ddiweddar. Roedd yn agoriad llygaid i weld sut roedd y Cwmni wedi datblygu dros y blynyddoedd a pha mor bwysig oedd y busnes o ran darparu gwasanaeth a chyflogaeth yn yr ardal.  Diolch yn arbennig i Edward a Dafydd am y croeso ac am ein tywys o amgylch.