Hafan > Newyddion > Clwb Darllen Clwb Gwawr Rhocesi Bro Waldo a Maenclochog


Clwb Darllen Clwb Gwawr Rhocesi Bro Waldo a Maenclochog


Ers Ionawr 2023 rydym ni fel CG Rhocesi Bro Waldo a MYW Maenclochog wedi dechre clwb darllen o dan arweiniad Ann Morris a Mair Thomas. 

Enw’r clwb yw ‘Pori a Phrofi’ 📚🍰 a pwrpas y clwb yw i gyfuno y ddau glwb er mwyn cwrdd ar y cyd yn fisol. 

Erbyn hyn, rydym yn 10 aelod sy’n cwrdd yn cartrefi ein gilydd i drafod llyfr y mis ac wrth gwrs i brofi amryw o ddanteithion sy wedi’u creu gan yr unigolyn sy’n ein cynnal y mis hwnnw.