Hafan > Newyddion > Clwb Camu Mlan yn Cerdded yr Arfordir
Clwb Camu Mlan yn Cerdded yr Arfordir
Ers dechrau’r flwyddyn eleni mae aelodau’r grŵp Camu Mlan wedi bod yn cerdded rhannau o arfordir Gorllewin Morgannwg bob yn ail wythnos gan ddechrau cerdded ym mis Ionawr o Neuadd y Sir yn Abertawe ar hyd y prom draw i gyfeiriad y Mwmbwls. Roedd yn fore heulog braf ond yn oer iawn a gorfu inni droi’n ôl pan oedd y llwybr yn rhy llithrig, felly aethom draw i SA1 i gwblhau’r daith.
Oherwydd tywydd gwlyb ddiwedd Ionawr y tro nesa inni gerdded yr arfordir oedd ddechrau Chwefror, gan gerdded o Croffti i Lanrhidian yng ngogledd Gŵyr ar ddiwrnod mwll oer. Roedd yr awyr yn llwyd a’r ffordd yn wlyb a’r unig ddifyrrwch oedd y ceffylau gwyllt oedd yn mynnu dod tuag atom er nad yn heriol. Ar ol cerdded roedd yn rhaid cael crempog gyda’r coffi gan ei bod yn ddydd Mawrth Ynyd.
Pythefnos yn ddiweddarach roeddem lawr ar draeth Oxwich yn ne Gŵyr ac yn cerdded y tro hwn ar y traeth draw i gyfeiriad Bae y Tri Clogwyn.
Roedd y môr allan ac yn dawel a dim ond rhyw ddwsin o bobl ar y traeth hir tywodlyd gyda ni. Roeddem i gyd yn gwerthfawrogi cyfoeth yr arfordir a’r golygfeydd sy gennym ar ein stepen drws.
Ein taith olaf cyn gwyliau’r Pasg oedd ar yr arfordir o Borthcawl i Sgêr ac unwaith eto roedd yn oer iawn ar y bore Mawrth yma ac mae hynny yn amlwg yn y llun a dynnwyd, cyn mynd am baned twym mewn gwesty lleol!
Ar ol y Pasg dyma gwrdd yn y caffi syrffio ar draeth Abertawe i gerdded draw at y Mwmbwls unwaith eto, gan i ni fethu gwneud hynny oherwydd tywydd garw ddechrau’r flwyddyn. Wrth fynd draw roedd y môr i mewn ond ar drai wrth inni ddychwelyd ac fel arfer roeddem wedi cerdded rhyw 4k erbyn diwedd y daith, a chael paned hanner ffordd y tro yma nid ar y diwedd, am newid.
Digon diflas oedd y daith nesaf gan taw dilyn llwybr ar drac yr hen reilffordd o Benclawdd i gyfeiriad Tregwyr wnaethom ac mae’r llwybr yn cyd-redeg a’r ffordd fawr brysur. Dim ond rhyw 2k oedd y daith nol a mlaen felly aethom i lawr drwy bentre Penclawdd i’r Croffti a Llanmorlais i gwblhau’r daith.
Ddechrau Mai roedd 12 o’r criw arferol wedi mynd ar daith dramor i’r Almaen ac felly dim ond rhyw chwech oedd yno i gerdded y llwybr o’r Mwmbwls draw i Langland, ond eto ni allem llai na rhyfeddu at y golygfeydd a’r traethau braf yn ein bro. Tywydd braf hefyd!
Aethom i un o draethau enwog arall y rhanbarth bythefnos yn ddiweddarach gan gerdded ar hyd y prom yn Aberafan. Roedd y traeth yn edrych ar ei orau a’r tywod yn lan a’r môr ar drai; a llawer o welliannau i’r tir o gwmpas y prom ers pan fuom yno ddiwetha. Tipyn o wynt ond dim glaw tra buom yn cerdded.