Hafan > Newyddion > Cinio Dathlu Llywyddiaeth Geunor Roberts


Cinio Dathlu Llywyddiaeth Geunor Roberts


Nos fercher 18fed Hydref cafwyd noson i ddathlu llywyddiaeth Geunor Roberts fel ein Llywydd Cenedlaethol am y ddwy flynedd nesaf.

Daeth aelodau o ganghennau Rhanbarth Meirionnydd i ddathlu yr achlysur yn y Bryn Arms, Gellilydan a braf iawn oedd cael cwmni Tegwen Morris Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Jill Lewis cyn Lywydd Cenedlaethola a Bethan Picton Jones Is- Lywydd Cenedlaethol atom. Diolch iddynt am fentro mor bell ar noson mor wyntog a glawog.

Cawsom adloniant gan Meibion Jacob ac fe lwyddon nhw i'n difyrru er gwaethaf i'r trydan ddiffodd am chydig a swn y gwynt a 'r glaw yn hyrddio ar y tó.

Dyma chydig o luniau i chwi a diolch i Caroline Keen cangen Parc am ddanfon rhai o'r lluniau ataf.