Hafan > Newyddion > Cinio Blynyddol Pencader 2024


Cinio Blynyddol Pencader 2024


Ar Ddydd Llun, 18fed Mawrth daeth criw o gangen Pencader a’r cylch at ei gilydd i’w cinio blynyddol ym mwyty Nantcelynen, Bronwydd. Cawsom groeso twymgalon gyda bwyd blasus a gwasanaeth heb ei ail yno gan Gemma a’i mham. I gwblhau’r prynhawn bu ein siaradwraig wâdd, Rhiannon Ainsworth, yn ein difyrru gyda straeon diddorol a digri am ei hamser fel athrawes a phrifathrawes yn yr ardal. Prynhawn hyfryd eto gyda’n ffrindiau yn y gangen.