Hafan > Newyddion > Cinio Blynyddol Cangen Llandeilo 2025


Cinio Blynyddol Cangen Llandeilo 2025


CANGEN LLANDEILO

Cynhaliwyd ein cinio blynyddol yn yr Aradr, Rhosmaen, ar 20 Mawrth. Y siaradwraig wadd oedd ficer newydd Eglwys Llandeilo, Y Parch. Carys Hamilton. Mae’n Gymraes i’r carn, yn wreiddiol o Geredigion ac wedi bod yn Gurad yng Nghwm-ann cyn dod i Landeilo. Rhoddodd hanes ei thaith i ymuno â’r weinidogaeth a sut oedd ei magwraeth wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad i newid gyrfa. Mae aelodau Eglwysi Llandeilo, Taliaris a Maesteilo yn ffodus i gael person mor frwdfrydig a diffuant i’w harwain yn eu gwasanaethau. Roedd yn brynhawn difyr a diolch i’r Aradr am y gwasanaeth trylwyr fel arfer.