Hafan > Newyddion > Cinio a Chyfarfod Blynyddol Penfro 2022
Cinio a Chyfarfod Blynyddol Penfro 2022
Cyfarfod Blynyddol a Chinio Rhanbarth MyW Penfro ym Maenor Llwyngwair. Hyfryd oedd cael dod at ein gilydd i ddathlu a chyd-nabod gweithgareddau'r flwyddyn. Croesawodd Llywydd y Rhanbarth Bethan Picton-Davies, ein Llywydd Cenedlaethol Jill Lewis, Hazel Thomas Swyddog Datblygu Rhanbarth Penfro a'r gwestai gwadd Mair Jones Ysgrifennydd Rhanbarth Ceredigion. Cafwyd adroddiad ar y flwyddyn gan Bethan. Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn, gyda nifer o aelodau'r Rhanbarth yn dod i'r brig mewn sawl cystadleuaeth cenedlaethol. Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd Eisteddfod Tregaron, lle welwyd Premier y Ffilm "Gwlân, Gwlân Gwlana". Cawson ddangosiad o'r ffilm gan Mair Jones, pawb yn ei fwynhau yn fawr iawn. Noson bendigedig!