Hafan > Newyddion > Chwaraeon Rhanbarth Glyn Maelor
Chwaraeon Rhanbarth Glyn Maelor
Merched y Wawr – Chwaraeon Rhanbarth Glyn Maelor Nos Fawrth, Ebrill 18fed cynhaliwyd chwaraeon rhanbarth Glyn Maelor yn Ysgol Brynhyfrd yng nghanol dipyn o siarad a chwerthin. Chwaraewyd whist, dominos, dewis dau ddwrn, dartiau a thenis bwrdd. Bydd rhai o’r enillwyr yn mynd i’r Ŵyl Haf, i’n cynrychioli fel rhanbarth. Nid yw’n gyfleus i bawb wneud hyn ond ar lefel rhanbarthol bu’n noson hwyliog a’r mwynhad i’w deimlo. Eilbeth oedd y cystadlu…. wrth gwrs! Gobeithiwn adeiladu ar lwyddiant eleni wedi cyfnod anodd Covid, fel y gallwn ddal ati i fwynhau cyfarfod â’n gilydd fel canghennau. Diolch i Nia Rowlands am drefnu y noson a gneud yn siwr fod yna gopi o’r rheolau ym mhob cystadleuaeth! Eirian Jones Llywydd y Rhanbarth.