Hafan > Newyddion > Cerdded, Cerdd a Chynefin cangen Bro Cennech
Cerdded, Cerdd a Chynefin cangen Bro Cennech
Cangen Bro Cennech yn mwynhau cyfarfod agoriadol 2022-23 a the prynhawn yng Nghanolfan Adar a Gwlyptir Penclacwydd. Diweddglo bendigedig i’r daith gerdded ar lan aber yr afon Llwchwr yng nghwmni Jill y LLywydd Cenedlaethol. Cawsom gyfle i sylwi ar y planhigion ar hyd Llwybr yr Arfordir a bywyd gwyllt yr aber a gwrando ar sgwrs am bwysigrwydd y gwlyptiroedd. Darllenwyd ambell gerdd bwrpasol a diolch i Jill am feirniadu’r gystadleuaeth limrigau. Diolch enfawr hefyd i Anna Brown a staff @wwtpenclacwydd.