Hafan > Newyddion > Cangenb Caerfyrddin yn cyflwyno siec i Uned Cancr y Fron Llanelli
Cangenb Caerfyrddin yn cyflwyno siec i Uned Cancr y Fron Llanelli
Meinir Hughes Griffiths,a'i chyd-aelodau, Mair Meredith a Glenys Thomas o gangen Merched y Wawr Caerfyrddin yn cyflwyno siec o £815 i brif ymgynghorydd Uned Cancr y Fron Llanelli, Dr S Khawaja.
Codwyd yr arian yn y Blygain flynyddol dan nawdd Merched y Wawr a charem ddiolch o galon am gefnogaeth holl gapeli, cymdeithasau a chorau'r ardal. Cynhelir y Blygain nesa ar nos Sul, 8 fed o Ragfyr yng Nghapel Heol Awst, Caerfyrddin.