Hafan > Newyddion > Cangen Y Tymbl yn cyflwyno siec i Gronfa Uned Cancr y Fron, Ysbyty Llanelli


Cangen Y Tymbl yn cyflwyno siec i Gronfa Uned Cancr y Fron, Ysbyty Llanelli


MERCHED Y WAWR CANGEN Y TYMBL

Yn dilyn noson lwyddiannus dros ben yn y Sioe Ffasiynau a gynhaliwyd ar Ebrill 25ain yn Neuadd y Tymbl, croesawodd y gangen Mr Simon Holt, cyn Brif Lawfeddyg a Phennaeth Uned Peony (Cancr y Fron, Ysbyty Llanelli) i’r cyfarfod ar Fai 30ain i dderbyn y siec o £1,500, a gasglwyd ar noson y sioe. Estynnodd Mr. Holt ei werthfawrogiad diffuant am y rhodd hael gan nodi “Mae pob un geiniog yn werthfawr i’r Uned a’r Gronfa”.