Hafan > Newyddion > Cangen Y Tymbl Tachwedd 2025
Cangen Y Tymbl Tachwedd 2025
Prynhawn Mercher Tachwedd 19eg aeth Pwyllgor Bach Merched y Wawr Cangen Y Tymbl am ginio i Westy’r ‘Falcon’ Caerfyrddin. Yn dilyn hwyrach ymunodd Bethan Picton-Davies, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr a Jane Morgan, Swyddog Datblygu a Hyrwyddo Rhanbarth Caerfyrddin gyda’r criw.
Trosglwyddwyd siec o’r gangen o £1,500 i brosiect Y Llywydd sef Ymchwil Canser Cymru. Arian a gasglwyd yn ystod dathliadau 50 mlwyddiant y gangen mis diwetha’.
