Hafan > Newyddion > Cangen Y Parc yn creu banner i gofio am Sylwen Lloyd Davies


Cangen Y Parc yn creu banner i gofio am Sylwen Lloyd Davies


Daeth Connie Davies, Eirian Roberts, Joyce Roberts, Jean Roberts, Lona Puw, Haf Puw, Meryl Davies ac Ann Blefyn o Grŵp Pwytho Cangen Y Parc at ei gilydd o dan arweiniad Gwyneth Jones i greu banner i gofio am Sylwen Lloyd Davies, Llywydd Anrhydeddus MyW ac un o sylfaenwyr y Mudiad yn Y Parc ym 1967. Yn y llun mae aelodau presennol Cangen Y Parc (mae Connie Davies ac Ann Blyfen yn absennol).