Hafan > Newyddion > Cangen Y Groeslon Ionawr 2026


Cangen Y Groeslon Ionawr 2026


Cangen Y Groeslon, Arfon

Gwyneth Pritchard o’r Waunfawr ddaeth atom i’n cyfarfod cyntaf yn 2026 a soniodd am ei busnes Bocs Sebon. Amlinellodd yr holl broses o ffurfio’r cwmni - o lunio logo i’r cwmni, sefydlu gwefan a dysgu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo a marchnata. Cawsom wybod sut mae’n creu’r sebon, olew baddon, cynnyrch croen, papur a blodau wedi eu sychu, a’r cyfan allan o flodau a gwahanol blanhigion a deunyddiau cwbl naturiol.