Hafan > Newyddion > Cangen Y Groeslon Hydref 2025
Cangen Y Groeslon Hydref 2025
Yng nghyfarfod Hydref cawsom gwmni Mrs Jane Jones sydd yn gwirfoddoli gydag elusen Cŵn Therapi Cenedlaethol, a hi yw’r unig wirfoddolwraig Gymraeg ei hiaith. Daeth â Mili’r ci therapi gyda hi a soniodd am y gwahanol fannau maent yn ymweld â nhw yn cynnwys ysgolion, ysbytai, cartrefi henoed, colegau a chyfarfodydd corfforaethol. Roedd yr hanesion am effaith y ci bach ar wahanol bobl yn cyffwrdd y galon.
