Hafan > Newyddion > Cangen Y Groeslon - Brethyn Cartref


Cangen Y Groeslon - Brethyn Cartref


Trefnodd Mair, ysgrifenyddes Cangen Y Groeslon, gyfarfod o Frethyn Cartref yng ngwir ystyr y gair ar gyfer mis Mai. Roedd tair o ferched Y Groeslon yn darllen dyfyniadau o lyfr gan ŵr o’r Groeslon am ŵr o’r Groeslon. Marian, Susan a Mary oedd y tair a fu’n darllen o lyfr Haydn Edwards am Griffith Davies, F.R.S. 1788-1855, a ddaeth, o fagwraeth ddistadl, yn fathemategydd o fri ac yn feistr ar actuariaeth ac yswiriaeth yn Llundain.

Marian, Susan a Mary oedd yn darllen o lyfr Haydn Edwards