Hafan > Newyddion > Cangen Y Bontfaen Ionawr 2025
Cangen Y Bontfaen Ionawr 2025

Mis yma wnaeth Merched y Wawr Cangen Y Bontfaen gynnal noson arbennig i’n siaradwyr newydd. Clywid am ddigwyddiadau arbennig Cymraeg lleol gan Cathy a Jên a chynllun siarad y Dysgu Cymraeg / Learn Welsh Cafwyd hanes Santes Dwynwen a’r Ferch o Gefn Ydfa gyda Carys, mi wnaeth Beth ganu Bugeilio’r Gwenith Gwyn a Ar Waun Tredegar. Canodd rhai o aelodau bore coffi Y Bontfaen Gofynais i…. A chafwyd pice blasus gan Lyn Guy a Sian Tesni. Diolch yn fawr i bawb am noson hyfryd.