Hafan > Newyddion > Cangen Y Bermo a'r Cylch Hydref 2025


Cangen Y Bermo a'r Cylch Hydref 2025


Merched y Wawr Cangen Y Bermo a'r Cylch

Croesawodd Llewela pawb i’r cyfarfod mis Hydref, braf oedd cael cwmni tair aelod o gangen Harlech a hefyd croesawu aelod newydd.

Roedd cryn edrych ymlaen at dreulio amser gyda Mair Tomos Ifans, mae ganddi amrywiol ddoniau. Daeth a stôr o gryno ddisgiau o’r 1960/70 i chwarae, ein tasg ni oedd enwir cantorion/grwpiau. Bu cryn ddyfalu a chwestiynu, roedd yn bnawn difyr a hwyliog.

Diolchodd Grace i Mair am ein diddanu yn ei ffordd gartrefol unwaith eto.

Diolch hefyd i Megan am gadw llygaid ar ein mantolen ariannol ers 2017ag i Alwena am ymgymryd a’r dyletswyddau o hyn ymlaen. Llongyfarchiadau i Jean a Morwena am eu llwyddiannau yn Sioe Sir Meirion, braf dilyn ei hanes yn Llais Ardudwy.

Yng nghofal y paned roedd Pam, Llewela a Grace, Heulwen enillodd y raffl.