Hafan > Newyddion > Cangen Y Bermo a'r Cylch Chwefror 2026
Cangen Y Bermo a'r Cylch Chwefror 2026
Estynnwyd croeso cynnes gan ein Llywydd Morwena i aelodau o gangen Harlech a LLanfair ac hefyd o gangen Nantcol am ymuno a ni i wrando ar yr Awdures Meinir Meinir Pierce Jones. Croesawyd ein gwâdd gan Alwena ein Trysorydd sydd wedi nabod Meinir ers blynyddoedd.
Mi gawsom bnawn difyr a hwyliog yng nhwmni Meinir yn gwrando arni yn dweud ei hanes a rhoi cefndir i ni o sut ddaeth i ysgrifennu ei nofel 'CAPTEN' a enillodd wobr goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn 2022. Nofel hanesyddol yw 'CAPTEN' wedi ei sefydlu "yn fy milltir sgwâr" fel dywedodd Meinir sef yn ardal Nefyn, Morfa Nefyn a Phorthdinllaen ym Mhen Llŷn ac wedi ei sylfaenu ar hanes hen daid i Meinir oedd yn Gapten ar y mȏr a'i wraig Elin, hanesion oedd wedi ei pasio o genhedlaeth I genhelaeth ac wedi ysbryfoli Meinir i ddweud ei stori.
Mi gawson hefyd ryw ychydig o wybodaeth am nofel newydd Meinir, un reit wahanol i 'CAPTEN' fydd yn y siopau diwedd Chwefror. 'To' yw teitl hon a dwi'n meddwl bydd amryw ohonom yn mynd i chwilio amdani!
Ar ȏl gwarando mor astud i straeon difyr Meinir mi oedd pawn yn falch o gael paned a chacen neu ddwy i ddod a pnawn llwyddianus iawn i ben.
Mi oedd na amryw o wobrau raffl a dwi'n gobeithio fod rhywun o bob cangen wedi cael o leia un. Diolchodd Morwena i Meinir am bnawn diddorol iawn a rhoddwyd diochiadau gan Mrs Eirlys Williams a Mrs Enid Owen.
Bydd ein cyfarfod nesa ar Ddydd Iau, 19ed Mawrth, 2026, pan fydd Ffion Dafis yn ein diddanu.



