Hafan > Newyddion > Cangen Y Bala yn dathlu Gŵyl Dewi 2026


Cangen Y Bala yn dathlu Gŵyl Dewi 2026


Noson dathlu Gŵyl Dewi, Merched y Wawr, Cangen Y Bala.

Cafwyd noson hynod o ddiddorol yng nghwmni Ffion Dafis yn rhannu ei phrofiadau ac yn darllen darnau trawiadol iawn o’i gwaith.  Gwyneth Jones oedd yn estyn croeso a diolch iddi, yng ngeiriau Gwyneth

‘Diolch am rannu profiadau llon a lleddf sy'n rhoi blas i ni ddarllen mwy o gynnwys 'Sbio ar Walia'. Diolch hefyd am gael cip o'i pherfformiad o un o'i monologau; a'r sgwrsio mor rwydd a chartrefol. Mae Ffion yn mynnu lle arbennig i ni ferched yn ein cymdeithas.’


Diolch i’r Pwyllgor Bwyd am y wledd o gawl cennin, pwdin, caws a bisgedi! Diolch hefyd i Gangen Uwchaled am ymuno a ni ac i Buddug Ellis am y diolchiadau. 

Llun Gwyneth Jones yn diolch i Ffion Dafis.