Hafan > Newyddion > Cangen Wrecsam Chwefror 2026


Cangen Wrecsam Chwefror 2026


Merched y Wawr Wrecsam

Yn ddiweddar cawsom y pleser o gael sgwrs gan yr artist lleol, Liam Stokes Massey.  Mae ganddo weithdy yn Nhy Pawb Wrecsam sef cwt bugail!  Mae Liam yn gyn-ddisgybl o Ysgolion Bodhyfryd a Morgan Llwyd ac wedi cael gyrfa ddiddorol cyn penderfynu ar yrfa fel artist llawn amser.  Bu'n gweithio mewn canolfan alw yn Nottingham yn delio gyda Taliadau Tanwydd Gaeaf (Winter Fuel payments) a hynny yn ateb galwadau yn Gymraeg!  Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn peldroed ac yn cefnogi Wrecsam a Chymru a daeth tro ar fyd iddo pan aeth Cymru i Gwpan Ewrop yn 2016.  Darluniodd sawl un o'r chwaraewyr yn arbennig Gareth Bale ac yn fuan iawn cafodd wahoddiad i wneud murluniau o gwmpas Wrecsam ac erbyn hyn mae wedi cwblhau sawl un ac maent yn rhan o lwybr murluniau a gellir cael taflen o'r Ganolfan Groeso ar Stryt Caer a gallwch fynd o gwmpas i weld yr holl furluniau arbennig wnaed gan Liam ac artistiaid eraill lleol.  Cafodd Liam weithio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam drwy fod yn rhan o'r criw oedd yn arwain gyda'r Lle Celf yn yr Eisteddfod. Mae wrth ei fodd yn defnyddio ei Gymraeg bob cyfle mae'n gael.

Roedd pawb wedi mwynhau'r noson gartrefol efo Liam ac roedd wrth ei fodd yn cyfarfod rhai o'i gyn-athrawon!