Hafan > Newyddion > Cangen Treobeth ar cwch Copor Jac


Cangen Treobeth ar cwch Copor Jac


Bu rhai o aelodau Cangen Merched y Wawr Treboeth ar y cwch “Copor Jac” prynhawn Gwener diwethaf i gloi tymor o weithgareddau. Roedd yn daith hamddenol i fyny’r afon Tawe - yn awr a hanner o hyd - gweld y byd natur ar lannau’r afon a chlywed hanes diddorol y diwydiannau a fu mor bwysig i’r ardal blynyddoedd yn ôl. Roedd y tywydd yn fendigedig ac yn glo perffaith i’r tymor.