Hafan > Newyddion > Cangen Trawsfynydd yn Dathlu'r Aur!
Cangen Trawsfynydd yn Dathlu'r Aur!
Ar yr 22ain o Fedi daeth aelodau’r gangen ynghŷd i ddathlu’r AUR,yr hanner canmlwyddiant ym Mhlâs Tan y Bwlch,Maentwrog.Mae’r Plas yng ngofal diogel Parc Cenedlaethol Eryri ac yn leoliad urddasol ar gyfer dathliad.
Cawsom de prynhawn blasus yn llawn danteithion melys a sawrus o bob math.Roedd wedi’i weini mewn ystafell sy’n edrych allan dros ddyffryn Maentwrog ac yn olygfa i’w thrysori ar ddiwrnod braf.Ystafell o baneli derw o dan nenfwd uchel a hen le tân addurnedig,hyfryd oedd ein man cyfarfod o sgwrsio a hel atgofion.
Cyflwynodd ein cadeirydd Deilwen Evans ein gwraig wadd Gaenor Roberts,Dinas Mawddwy i’n hannerch.Mae Gaenor yn gybyddys i ni ym Meirionnydd yn ogystal â bod yn is-lywydd Cenedlaethol y mudiad.Dewisodd Gaenor sôn am benwythnos preswyl Medi 22:Difas y Drindod.Penwythnos llawn adloniant,siaradwyr,teithiau,sioe ffasiwn,cymdeithasu a llond lle o brydau bwyd i dynnu dŵr i’r dannedd.Yn ei dull naturiol,agosatoch daeth Gaenor â’r penwythnos yn fyw o flaen ein llygad.Cododd awydd a diddordeb ym mhenwythnos 2023 fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Pantycelyn,Aberystwyth.
Cyflwynwyd tusw o flodau i Gaenor fel arwydd o’n gwerthfawrogiad a chafwyd cacen wnaed gan Doreen Jones i goroni’r prynhawn o ddathlu.
YMLAEN I’R 50 NESAF