Hafan > Newyddion > Cangen Rhydymain - Hydref 2024


Cangen Rhydymain - Hydref 2024


Cangen Rhyd-y-main

Nos Fawrth 1af o Hydref cafwyd noson difyr iawn yng nghwmni Sian Howys. Eglurodd sut y dechreuodd Deiseb Heddwch Menywod Cymru 100 mlynedd yn ôl. Cafwyd hanes a lluniau o'r rhai oedd yn gyfrifol trwy gyfrwng adnodd cyfrifuadurol. Roedd aelodau'r gangen wedi gwaredu ar sut y casglwyd yr holl lofnodion. Fe welwyd hefyd rannau o'r ddeiseb ynghyd a llofnod ambell berthynas i rai oedd yn bresennol. Noson difyr dros Ben.