Hafan > Newyddion > Cangen Prestatyn yn cerdded!
Cangen Prestatyn yn cerdded!
Daeth y bryniau yn fyw gyda sgwrs a barddoniaeth pan aeth rhai aelodau o Ferched y Wawr Prestatyn am dro fel rhan o’r ymgyrch Cerdd Cerdded a Chynefin y Llywydd genedaethol.
Aeth saith o aelodau’r gangen ar daith o gwmpas Galltmelyd yn cynwys Graig Fawr sy’n berchen i’r Ymddiriodolaeth Genedlaethol.
Ar ôl cychwyn o’r Shed sy’n hên adeilad rheilffordd wedi ei drawsnewid trwy ymdrech lleol i gaffi, hwb treftadaeth, caffi a siop grefftau lleol.
Aethant ar hyd llwybr yr hên reilffordd at gyfeiriad Dyserh cyn dringo i fyny at y copa.
Tra’n cael seibiant darllenwyd gerdd a ysgrifenwyd gan un o’r aelodau oedd yn methu bod yn bresennol,
Mae criw o ferched mentrus
Yn cychwyn ar eu taith,
Ar fore Sadwrn heulg,
Ond nid yw’r siwrne’n faith.
Cychwyna pawb yn awr o’r Shed-
Na, nid honno sy’n yr ardd,
Ond yr un a geir yng Ngalltmelyd,
Mae’r olygfa yno’n hardd.
Troi golygon tua Diserth
I gychwyn wnant i gyd,
Ar lwybrau cadarn hyfrd,
Cyn iddynt newid byd.
Rhaid troi oddi ar y llwybr
O fewn rhyw hanner awr,
Gan ddilyn llwybr culach
A serth, i gopa’r Graig Fawr.
Mae’r olygfa yno’n hyfryd,
O’r môr i Eryri draw,
A chân godidog adar
A glywir ar bob llaw.
Ac yna i lawr yn bwyllog,
Mae’r grisiau bach yn serth,
Ac yn ôl i groeso’r Shed
A phaned fawr ei gwerth.
Cerdded Cerdd a Chynefin
Sydd yma ‘nawr ynghyd.
A Merched y Wawr Prestatyn
Yn hapus iawn eu byd.
Dilynwyd y llwybr trwy’r goedwig cyn cyrraedd yn ôl at y Shed i fwynhau paned a chacen.