Hafan > Newyddion > Cangen Porthmadog a Golan yn dathlu Santes Dwynwen
Cangen Porthmadog a Golan yn dathlu Santes Dwynwen
Noson i ddathlu Santes Dwynwen, nos Fawrth, Ionawr 19. Cangen Porthmadog a changen Golan wedi ymuno efo'i gilydd ar gyfer y noson. Perfformiwyd sgets o stori Dwynwen gan gangen Porthmadog, fersiwn draddodiadol ac anhraddodiadol o'r stori! Daeth y grwp Cymdogion i ddiddanu i ddiweddu'r noson.