Hafan > Newyddion > Cangen Penygroes yn dathlu'r Aur - Rhagfyr 2025


Cangen Penygroes yn dathlu'r Aur - Rhagfyr 2025


Dyma luniau o Gangen Penygroes yn dathlu’r Aur a’r Nadolig mewn cinio yn y” Stag & Pheasant” Carmel. Diolch i Sheila am wneud y gacen hyfryd ac i Olive am wneud penillion pwrpasol iawn.

Braf iawn oedd cael cwmni Gwyneth, Ann ac Eirlys (Swyddogion Rhanbarth) Jane ein Swyddog Datblygu ac Olive Fisher. Olive oedd un o’r Swyddogion Rhanbarth a ddaeth i ddechrau’r gangen yn 1975. Pawb wedi cael prynhawn pleserus iawn yng nghwmni ei gilydd.

Llun o’r Swyddogion  Rosemary (Llywydd) Marian (Ysgrifennydd) a Sheila (Trysorydd)