Hafan > Newyddion > Cangen Penygroes Tachwedd 2025


Cangen Penygroes Tachwedd 2025


Yn cyfarfod mis Tachwedd o gangen Penygroes, roedd yn bleser croesawu Mathew Lemon Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Penygroes ynghyd â phum aelod o Gyngor yr ysgol. Roedd hi’n braf clywed y plant yn rhoi blas o’r hyn maent wedi bod yn eu gwneud dros y tair blynedd ddiwethaf. Dywedasant hefyd pa mor bwysig oedd y gymuned i’r ysgol a sut yr oeddent yn mwynhau cyd-weithio gyda’r gymuned. Diolch i Mr Lemon a’r plant am brynhawn hyfryd iawn.