Hafan > Newyddion > Cangen Penygroes Hydref 2024
Cangen Penygroes Hydref 2024
Fe wnaeth Elin Cullen o Glwb Gwawr y Gwendraeth cyflwyniad i Ferched y Wawr, Penygroes ar 'Adnewyddu Banc-Yr-Ysgol’, y cartref roedd Elin wedi cael ei chodi ym Mhontiets ac wedi bod yn ei theulu ers 1875.
Roedd y cyflwyniad yn cynwys:-
Hanes y tŷ
Amcanion y prosiect
Yr amserlen
Y cynllyn
Lluniau o'r tŷ cyn dechrau ac ar ol y newidiadau
Y dymchwel
Y gwaith adeiladu
Y tŷ wedi ei gwblhau.
Cafodd pawb brynhawn difyr iawn ac yna lluniaeth a raffl ac yr oedd Elin wedi rhoddi torch drws ffres yn wobr.
Bydd Elin yn cynnal gweithdy Torch Nadolig i aelodau Clwb Gwawr y Gwendraeth yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd.