Hafan > Newyddion > Cangen Penygroes, Caerfyrddin Mawrth 2026
Cangen Penygroes, Caerfyrddin Mawrth 2026
Dyma luniau o Gangen Penygroes a oedd wedi gwahodd Cangen Llangadog i ymuno i ddathlu Gŵyl Dewi. Diolch i’r gantores Peri Lynn a Desna Pemberton oedd ar y piano am ein diddanu. Mae Peri Lynn yn siaradwraig newydd a llongyfarchiadau iddi am ddysgu nifer o alawon Cymraeg yn arbennig i berfformio ar y noson. Cafodd pawb amser pleserus iawn yng nghwmni eu gilydd.










