Hafan > Newyddion > Cangen Penygroes Awst 2025
Cangen Penygroes Awst 2025
Penblwydd Hapus i gangen Penygroes yn 50
Gyda diwedd hoe yr haf mae'n ddechrau tymor newydd o gymdeithasu. Felly croeso i holl ferched yr ardal i ymuno ni,
Yn draddodiadol byddwn yn cwrdd rhyw deng gwaith y flwyddyn, a chael sgwrs neu gyflwyniad gan westai arbennig. Yr uchafbwyntiau yw ein cinio Nadolig, ein trip blynyddol ac wrth gwrs ein dathliad Gwyl Dewi,
Yn ein dathliad eleni fe rhannwyd fel arfer gyda changen cyfagos o Ferched y Wawr, ac eleni ein chwiorydd oedd Cangen Llandeilo, yn eu plith roedd Mrs Olive (Fisher) Davies. Hi a'r diweddar Mrs Iris Williams a ddechreuodd y gangen yn Hydref 1975, Felly rydym yn dathlu ein hanner canrif eleni.
50 mlynedd yn ôl yn ysgol y pentref roeddwn yn cwrdd. Erbyn hyn Neuadd Goffa y pentref yw ein cartref,
Yn ein dathliad Gwyl Dewi cawsom noson cofiadwy yng nghwmni dawnswyr Llanddarog, yn eu gwisgoedd Cymreig. Prin iawn oedd y dynion yn eu plith. Ymunodd rhai o ni i ddawnsio gyda hwy.
Yr oedd sawl un ohonom yn 'stiff' ac y wynegon i gyd y bore canlynol.
Dyma i chi hen ddarlun o'r merched (dim dyddiad yn anffodus) ond tybed faint o'r rhain yr ydych yn eu hadnabod?
Rydym yn aros nawr i ddathlu'r 50. Os eos unrhyw un am ymuno a ni, mae ein cyfarfod ar yr ail brynhawn o'r mis am 2.00.pm yn y Neuadd, a cewch groeso twymgalon.

