Hafan > Newyddion > Cangen Penygroes, Arfon yn cadw'n brysur!
Cangen Penygroes, Arfon yn cadw'n brysur!
Dyma ambell i lun o noson hwyliog a drefnwyd gan MYW Penygroes, Rhanbarth Arfon.
Cynhaliwyd y bencampwriaeth dominôs nos Fercher 3 Mai yng nghapel Soar Penygroes a hynny am y tro cyntaf ers tair blynedd. Daeth aelodau o gangen y Groeslon a changen Dinas i ymuno â ni. Cafwyd llawer o hwyl, llawer o ganolbwyntio ac roedd rhai yn fwy cystadleuol na’i gilydd!!
Yr enillwyr oedd Glenda ac Eurwen o gangen Penygroes.