Hafan > Newyddion > Cangen Penybont ar Ogwr Tachwedd 2024
Cangen Penybont ar Ogwr Tachwedd 2024
Debra John oedd y siaradwr gwadd yng nghangen Pen-y-bont ar Ogwr mis yma. Soniodd am ei thaith iaith cyn perfformio tair chwedl Gymreig.
Mae hi'n dod o deulu di-Gymraeg yn Abertawe. Aeth i Brifysgol Aberystwyth a graddio mewn Drama a Saesneg. Wedi taith ddifyr i ddysgu Cymraeg dros nifer o flynyddoedd, ers Cofid ac ennill yn yr Eisteddfod yn ystod y Cyfnod Clo, mae hi wedi magu mwy o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg. Nawr, mae hi’n awyddus i ddefnyddio ei dawn i annog plant ac oedolion i ddysgu a defnyddio’r iaith. Dywedodd fod cefnogaeth canghennau Merched y Wawr wedi bod yn bwysig ar ei thaith.
Roedd yn adrodd straeon wedi gwneud argraff ar yr aelodau. Roedd pawb wedi mwynhau yng nghwmni Debra yn fawr iawn.
Mae'r gangen yn cyfarfod ar nos Iau cyntaf y mis yn Capel Annibynwyr y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr #diolch Felicity Cleaves