Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd yn ymweld â Plas Bondanw
Cangen Penrhosgarnedd yn ymweld â Plas Bondanw
Cangen Penrhosgarnedd I orffen ein tymor eleni, cafwyd prynhawn bendigedig yng ngerddi Plas Bondanw, cartref Syr Clough Willams-Ellis. Cyfle i grwydro'r gerddi a gweld y golygfeydd bendigedig, paned a chacen, a sgwrs ddifyr iawn am hanes y teulu a'r cartref gan Seren Dolma, gor-wyres Clough. Roedd y tywydd ar ei orau a phawb wedi mwynhau hamddena yn y llecyn hyfryd hwn.