Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd yn dathlu Gŵyl Dewi
Cangen Penrhosgarnedd yn dathlu Gŵyl Dewi
Aelodau Merched y Wawr Penrhosgarnedd a Bangor yn mwynhau gwledd o Ginio Gŵyl Ddewi yng Nghlwb Golff Caernarfon. Mae ôl canolbwyntio mawr ar rai o’r aelodau yn y lluniau. Y rheswm am hyn oedd mai rhan o’r adloniant ar ôl cinio oedd posau amrywiol a baratowyd gan yr Is-lywydd, Glenda Jones. Cafwyd noson hwyliog dros ben, a braf oedd gweld cynifer wedi dod ynghyd i ddathlu’n nawddsant.

