Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd yn dathlu Gŵyl Dewi
Cangen Penrhosgarnedd yn dathlu Gŵyl Dewi
Oherwydd y tywydd rhewllyd yng nghanol mis Rhagfyr bu'n rhaid i gangen Penrhosgarnedd ohirio eu cinio Nadolig ym mwyty'r Felin, Pontrug. Ond llwyddwyd i ailwampio'r rhaglen ac aethom yn ôl i'r bwyty i ddathlu Gŵyl Ddewi yn lle hynny. Roedd yn werth yr aros: cafwyd noson werth chweil a bwyd bendigedig.