Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd Taith Haf 2025


Cangen Penrhosgarnedd Taith Haf 2025


Dyma luniau o Ferched y Wawr cangen Penrhosgarnedd, ar eu taith haf i ffatri Llaeth y Llan. Buont yn ffodus i gael tywydd braf iawn i werthfawrogi’r lleoliad arbennig. Dyma nhw y tu allan i’r adeilad lle cafwyd cipolwg ar y gwaith cynhyrchu a chefndir y busnes; yn sgwrsio’n frwd dros de prynhawn ardderchog; yna’n hamddena yn y gerddi bendigedig llawn cymeriad. A Meira yn dangos nad ydych byth rhy hen i gael tro ar y siglen. Diolch i Gareth a Falmai Roberts am eu croeso twymgalon.