Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd Tachwedd 2022


Cangen Penrhosgarnedd Tachwedd 2022


MERCHED Y WAWR PENRHOSGARNEDD

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yw’r Cwis Cenedlaethol. Fel arfer llond ystafell o dimau Arfon yn cystadlu a gwledda mewn gwesty lleol. Yn anffodus, tila iawn oedd y gefnogaeth yn Arfon eleni a dim ond 5 tîm o’r Rhanbarth ddaeth at ei gilydd yn yr Institiwt yng Nghaernarfon, 2 ohonynt o Benrhosgarnedd. Ond na phoener! Dangosodd un tîm o’r gangen eu bod yn chwarae yn uwch na lefel Rhanbarth, a dod i’r brig DRWY GYMRU! Curo 126 o dimau i gyd. Aelodau’r tîm buddugol oedd Cynthia, Lis a Nerys. Llongyfarchiadau gwresog iddyn nhw.

Y tîm arall o’r gangen, oedd Nia H, Marian a Sioned. Ymdrech lew ond... dim lle ar yr awyren i Qatar y tro hwn.

Er mai lle digon llwm yw’r Institiwt, rhaid diolch i’r Pwyllgor Rhanbarth am wneud y noson yn un groesawgar. Ein Glenda Jones ni yw Llywydd y Rhanbarth eleni felly diolch iddi hi a’i thîm am y bara brith a’r cacennau hyfryd, ac am fod yn gwisfeistres ddiflino, yn ymlafnio drwy gant o gwestiynau i gyd.

Llun: Buddugwyr Cymru gyfan: Nerys Roberts, Lis Jones a Cynthia Owen

Un o ferched y Garth ddaeth atom i siarad yn y gangen y mis hwn, sef Megan Eames a ddaeth i roi cipolwg i ni ar ei gyrfa yn y byd ffasiwn. Wedi graddio o Brifysgol Metropolitan Manceinion, bu Megan yn gweithio gyda rhai o enwau mawr y tai ffasiwn. Roedd ei swydd gyntaf ym mhencadlys neb llai na Karl Lagerfeld yn Amsterdam! Rhoddodd Megan flas i ni o’r byd y tu ôl i’r llenni, gan gynnwys berw gwyllt ac oriau hirion yr ‘wythnos ffasiwn’ yn Llundain a Pharis.

Ond ar yr un pryd roedd gan Megan ddiddordeb hefyd mewn hanes dillad, ac aeth yn ôl i wneud gradd feistr mewn hanes ffasiwn. Dangosodd i ni sut mae dillad bob amser wedi adlewyrchu hanes y cyfnod a hyd yn oed seicoleg yr oes. Enghraifft drawiadol oedd hanes merched Beca, a’r dynion yn gwisgo fel merched nid yn unig er mwyn cuddio pwy oedden nhw ond hefyd yn ymfalchïo ym manylion benywaidd eu gwisgoedd.

Llun: Megan Eames a sleid o Ferched Beca

Mae Megan wedi penderfynu ei bod am barhau i astudio ac mae hi newydd ddechrau doethuriaeth mewn ffasiwn cynaliadwy. Dywedodd fod gwir angen i ni ailfeddwl am ein perthynas â dillad. Mae 5.5 Miliwn o boblogaeth y byd heb ddillad digonol ar yr un pryd mae 73% o’r dillad yng nghypyrddau’r byd cyfoethog byth yn cael ei gwisgo.

Diolchodd y Llywydd, Elen Lansdown i Megan am noson ddiddorol ac addysgiadol. Dymunodd yn dda iddi yn eu hastudiaethau ac am wneud i ni sylweddoli fod cymaint i’w drafod yn y byd rhyfeddol hwn.