Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd Hydref 2025
Cangen Penrhosgarnedd Hydref 2025
MERCHED Y WAWR PENRHOSGARNEDD
Mae pawb wedi hen setlo i’r tymor newydd bellach, a gyda thair aelod newydd eleni, mae bwrlwm pendant yn y gangen. Mis Medi cawsom gwis cerddorol difyr iawn gydag Ann Eluned wrth y llyw; ac ym mis Hydref cawsom y cyfle i glywed mwy am hanes un o’n haelodau, o dan y teitl “yr awydd i sgwennu”. Addas iawn gan fod yr awydd i sgwennu wedi golygu fod Rhiannon Thomas wedi cyhoeddi nofel dros yr haf, sef nofel dditectif o’r enw “Penllechwedd”. Mynnwch eich copi, mae’n werth ei darllen.
Mae croeso bob amser i aelodau newydd. Mae cangen Penrhosgarnedd yn cwrdd bob yn ail nos Fawrth yn ystafell fwyta Cae Garnedd, gyda nifer o aelodau o gangen Bangor yn ymuno â ni ar y nosweithiau hynny. Dechrau am 7pm. Mae gennym raglen ddiddorol am weddill y flwyddyn ac mae’r sgwrs a’r baned wedyn yn gynnes bob tro. Cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Ann Eluned Jones am ragor o fanylion. anneluned05@gmail.com
Dyma lun o Rhiannon Thomas a’i nofel ddiweddaraf, nifer o’r aelodau wedi cael blas arni yn barod.
