Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd Hydref 2023


Cangen Penrhosgarnedd Hydref 2023


Cafodd aelodau Canghennau Penrhosgarnedd a Bangor noson i werthfawrogi gwaith yr aelodau a fu’n paratoi ar gyfer arddangosfa’r Mudiad yn yr Eisteddfod eleni. Roedd yn gyfle da i weld y gwaith gorffenedig yn agos ac i glywed sut aeth criw bach o’r ddwy gangen ati i greu’r crefftwaith. Llwybrau oedd y testun ac aeth llawer o feddwl i ddehongli’r testun hwn. Dewisodd cangen Bangor adrodd hanes y llwybr rhwng Abergwyngregyn a Phier Bangor, gyda sleidiau oedd yn cynnwys pob math o wybodaeth am hanes a phob nodedig yr ardal, ac atgofion personol hefyd. Darluniodd Penrhosgarnedd y llwybr Rhwng y Ddwy Bont, gyda brodwaith cain a manwl iawn; a llyfryn wedyn i fanylu ar yr eitemau ar y gwaith celf. Hefyd peintiodd ein harlunydd Marian Rees Jones, ddarlun o’r “goeden ryfeddol” fel mae’n cael ei hadnabod yn lleol. Yr aelodau i gyd wedi gwerthfawrogi’r oriau o waith a wnaed gan un criw bach. Dyma rai lluniau o griw Penrhosgarnedd.