Hafan > Newyddion > Cangen Penrhosgarnedd a Bangor yn dathlu Gŵyl Dewi
Cangen Penrhosgarnedd a Bangor yn dathlu Gŵyl Dewi
Daeth nifer ardderchog o aelodau Merched y Wawr Penrhosgarnedd a Bangor ynghyd i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni gyda chinio yng ngwesty Carreg Brân Llanfairpwll. Roedd y bwyd a’r sgwrs yn flasus dros ben, ond rhaid oedd cael toriad bach, yn ôl y traddodiad, i roi cynnig ar gyfansoddi. Gorffen limrig a gwneud brawddeg o CARREG BRAN oedd y tasgau y tro hwn. Dyma’r llenorion buddugol! Ann Eluned ar y chwith a’i limrig llwyddiannus am Dŵr Marcwis gerllaw a Lis Jones am ei dyfeisgarwch gyda’r frawddeg. Noson hyfryd iawn. Dyma’r ddwy ddaethi i’r brig gyda’i gwobrau.