Hafan > Newyddion > Cangen Peniel yn dathlu Gŵyl Dewi
Cangen Peniel yn dathlu Gŵyl Dewi
Alice Abadam 1850-1940, Dorothea Bate 1878-1948, Elizabeth Phillips Hughes 1851-1925, Rachel Barrett 1874-1953, Norah Isaac 1914-2003. Tybed faint o drigolion Caerfyrddin a’r cylch sy’n gyfarwydd neu sy’n gwybod unrhywbeth am y menywod uchod? Ychydig iawn, mi dybiaf. Mary Thorley oedd siaradwraig wadd Cinio Gŵyl Dewi’r gangen eleni a gynhaliwyd yng Nghlwb y Cwins. Ar ôl swper blasus iawn a baratowyd gan Kath Williams a’i staff, rhannodd Mary ffrwyth ei hymchwil ar fenywod nodedig Caerfyrddin gan ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi eu hanrhydeddu ar y Placiau Glas sydd o amgylch tref Caerfyrddin. Dyna i chi er enghraifft, Dorothea Bate ac Elizabeth Phillips Hughes, y ddwy o Stryd Spilman, y naill yn baleontegydd a’r wraig gyntaf i’w chyflogi gan Amgueddfa Natur Llundain a’r llall yn addysgwraig o fri. Yn 1949 ailenwyd y Coleg Hyfforddi i Fenywod yng Nghaergrawnt yn ‘Hughes Hall’ ar ei hôl. Dilynwch lwybrau'r Placiau Glas er mwyn cael mwy o wybodaeth am y menywod blaengar hyn o Gaerfyrddin. Mawr oedd ein diolch i Mary am noson addysgiadol a difyr.