Hafan > Newyddion > Cangen Peniel Taith Haf 2026
Cangen Peniel Taith Haf 2026
Taith haf Merched y Wawr Peniel.
Castell Aberteifi, Yr Arglwydd Rhys, jin a gwesty Teifi Waterside yn Llandudoch. Dyna oedd yr arlwy ar gyfer taith ddiwedd tymor i ferched MYW Peniel. Cawsom ein swyno gan ddawn storïol ein tywysydd Hedd Ladd Lewis yng Nghastell Aberteifi. Fe’n harweiniodd yn gelfydd drwy hanes cythryblus y castell gan sôn yn benodol am gyfnod Yr Arglwydd Rhys a’i rôl yn sefydlu’r eisteddfod gyntaf yno 850 o flynyddoedd yn ôl. Distyllfa In The West Wind, Tanygroes oedd ein cyrchfan nesaf lle cawsom gyfle i flasu a phrynu gwahanol wirodydd, pob un ohonynt wedi ei distyllu ar y safle. I ddiweddu’r noson cawsom bryd o fwyd hyfryd yn Teifi Waterside ger traeth Poppit. Bydd ein cyfarfod nesaf ym mis Medi ac mae croeso cynnes iawn i unrhyw un fydd yn dymuno ymuno â’r gangen fywiog hon.
