Hafan > Newyddion > Cangen Peniel Medi i Rhagfyr 2024
Cangen Peniel Medi i Rhagfyr 2024
Rydym ni fel Cangen Peniel wedi cael nifer o gyfarfodydd hyfryd ers Mis Medi. Noson hynod o ddiddorol yng nghwmni Anwen Butten a fu yn son am ei champau rhyfeddol ym myd bowlio.
Ym Mis Hydref Cwrdd Diolchgarwch bendithiol yng nghwmni ein gwraig gwadd Mererid Hopwood a’n cyd aelod y Parch Beti Wyn wedi llunio Gwasanaeth hyfryd.
Jo Partridge a wnaeth ein hysbrydoli i lunio addurn Nadolig o wydr ym Mis Tachwedd. Nison llawn hwyl a sbri.
Cinio Nadolig hyfryd yng Ngwesty’r Cawdor Llandeilo i gwblhau’r flwyddyn.