Hafan > Newyddion > Cangen Peniel medi 2025


Cangen Peniel medi 2025


Cynhaliwyd noson gyntaf tymor 2025/26 MYW Peniel nos Fawrth Medi 17eg. Ein gwestai oedd Rhiannon Jenkins o Gapel Hendre a bu’n adrodd hynt a helyntion ei bywyd. Pe byddech wedi cerdded heibio Neuadd Gymunedol Peniel byddech wedi clywed llond neuadd o wragedd yn morio chwerthin. Noson oedd yn falm i’r enaid ac wedi codi calon pawb oedd yn bresennol. Mae ein diolch yn fawr i Rhiannon am noson o adloniant pur.