Hafan > Newyddion > Cangen Peniel Ionawr 2026
Cangen Peniel Ionawr 2026
Cangen Peniel
“Sai di whare whist ers blynydde” neu “ Sdim syniad ‘da fi shwd i whare whist” oedd cri’r aelodau wrth iddynt gamu drwy ddrws Neuadd Gymuned Peniel ar noson aeafol ym mis Ionawr. Dwy awr yn ddiweddarach ar ôl llond bola o chwerthin a siarad, roedd pob un yn feistr ar y gêm ac wedi mwynhau eu hunain mas draw. Fydde hyn ddim wedi bod y bosib oni bai am ein harbenigwyr chwist sef Eirlys a Mary. Bu’r ddwy yn amyneddgar iawn wrthym ac yng ngeiriau Eirlys, “ Bydd angen whistle arna’i y tro nesa !”
Dyma ambell lun o'r noson.
